AiDi

Polisi Preifatrwydd Ap AiDi

Hafan › Polisi Preifatrwydd Ap AiDi

Bydd yr ap Ai-Di yn defnyddio gwybodaeth bersonol defnyddwyr er mwyn darparu gwasanaeth sy’n cynnwys cerdyn adnabod (ID) electronig i Ofalwyr Ifanc. Bydd hefyd yn galluogi Gofalwyr Ifanc i anfon ping at eu hysgol. 

Byddwn yn dibynnu ar ganiatad chi i wneud hyn. Mi fedra nhw dynnu eu caniatâd yn ôl unrhyw bryd os nad ydynt eisiau defnyddio’r ap/eisiau eu gwybodaeth yn yr ap. Bydd unrhyw wybodaeth amdanoch chi yn cael ei phrosesu ar sail buddion cyfreithlon. 

Ni fydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio at unrhyw beth arall heblaw’r uchod. 

Os yn angenrheidiol, er enghraifft mewn achosion diogelu, bydd gwybodaeth yn cael ei rannu gyda’r Awdurdod Lleol perthnasol, sef Cyngor Gwynedd neu Gyngor Sir Ynys Môn.

Bydd y wybodaeth sydd yn cael ei chadw ar yr ap yn cael ei hadolygu bob 2 flynedd. 

Bydd y wybodaeth yn cael ei dinistrio:

  • ar ôl i’r Gofalwr Ifanc droi’n 18
  • neu os fydd y Gofalwr Ifanc yn tynnu eu caniatâd yn ôl
  • neu os fydd sefyllfa’r Gofalwr Ifanc yn newid ac ni fyddan nhw’n Ofalwr Ifanc pellach

Cedwir y wybodaeth yn y Deyrnas Unedig.

Am wybodaeth am hawliau Gofalwyr Ifanc o ran eu data, ewch i’r darn datganiadau preifatrwydd ar wefan y ddau Gyngor.

Gwefan Cyngor Gwynedd
https://www.gwynedd.llyw.cymru/

Gwefan Cyngor Sir Ynys Môn
https://www.anglesey.gov.wales/