AiDi

Ysgolion

Hafan › Ysgolion

Beth yw'r ap?

Beth yw'r ap?

Mae’r ap yn ffordd flaengar a modern i gadw mewn cysylltiad â'r Gofalwyr Ifanc yn eich ysgolion chi. Bydd yr ap yn rhoi'r cyswllt rhwng disgyblion a'r athrawon yn eu dwylo nhw, yn y gobaith y bydd y drefn breifat newydd yn gwneud unigolyn yn fwy tebygol o ddod atom ni os byddent yn bryderus neu o dan bwysau adref neu gyda'i gwaith ysgol.

Adnabod gofalwyr ifanc

Adnabod gofalwyr ifanc

Rydym eisoes yn gwneud y gwaith cyswllt gydag ysgolion lleol drwy ymweld â dosbarthiadau disgyblion a rhoi cyflwyniadau i godi ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc, ac i dynnu sylw gofalwyr cudd ym mhlith disgyblion. Mae’n hynod bwysig ein bod yn adnabod gofalwyr ifanc ac ein bod yn cynnig cymorth ychwanegol iddynt, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu gwir botensial yn addysgol, yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael bob chwarae teg gyda'u rôl adref.

Beth yw cyfrifoldebau ysgolion?

Beth yw cyfrifoldebau ysgolion?

Mae yn gyfrifoldeb mawr i sicrhau fod pob disgybl yn yr ysgol yn derbyn pob chwarae teg, ac rydym yma i gefnogi ysgolion wrth gynnig cymorth ychwanegol i Ofalwyr Ifanc. Yn sgil yr ap newydd bydd o leiaf un athro neu athrawes gefnogol yn gyfrifol dros y negeseuon bydd yn cael eu derbyn o’r ap gan y Gofalwyr Ifanc. Bydd yn bwysig fod y negeseuon yma yn cael eu dadansoddi er mwyn penderfynnu os oes angen y gefnogaeth gan yr ysgol neu Cyngor Gwynedd a Gweithredu Dros Blant ar yr achlysur yma. Bydd cyswllt cyson rhyngom ni a’r ysgol yn holl bwysig.

Adnoddau i ysgolion

Adnoddau i ysgolion

Mae gan Ffionwynneedwards@gwynedd.llyw.cymru adnoddau ar gael i addysgu athrawon neu staff cefnogol o fewn yr ysgolion i godi ymwybyddiaeth o Ofalwyr Ifanc yn ein plith. Cysylltwch â Ffion am fwy o wybodaeth. Bydd Ffion yn ymweld â phob ysgol uwchradd Gwynedd yn y dyfodol agos i godi ymwybyddiaeth disgyblion a staff. Mae’r cyswllt cychwynnol wedi ei greu, ond os hoffech holi unrhyw gwestiwn, peidiwch ag oedi i gysylltu.